Well myn uffarn i, ma’ hi ‘di bod sbel ers i mi ‘sgwennu unrhyw beth i’r blog yma. Rhy hir! Pedwar mis ers i’r daeargryn ddigwydd, doedd gen i ddim chwaith ‘sgwennu am y digwyddiad tan heddiw.
Yn amlwg ‘dach chi i gyd wedi clywed am y trychineb erchyll a oedd y daeargryn a drawodd Japan ar y 11eg o Fawrth am 14:45. Mesurodd y daeargryn 9.0 ar y raddfa Richter. Ni chefais i fy effeithio’n rhy ddrwg gan y daeargryn, er bod Yamagata dim ond 5o munud o Sendai. Roeddwn i yn y gwaith pan drawodd y daeargryn, roedd rhaid i mi adael yr adeilad a sefyll tu allan. Teimlad rhyfedd dros ben, estron i ni ym Mhrydain. Roedd rhaid i mi sefyll gyda’m traed ar led i gadw’n fertigol, dim yn annhebyg i sefyll mewn cwch rhwyfo ar y môr! Parhaodd y ddaeargryn am o gwmpas 3 munud, 3 munud hir iawn, gydag ôl-gryniadau mawr yn parhau i’m hysgwyd roedd rhaid gwaghau’r adeilad am oddeutu awr. Yn y cyfamser newidiodd y tywydd yn drawiadol, cododd y gwynt main, casglodd y cymylau llwyd-ddu llawn cysgodion dwfn ac i roi halen i’r graith fe ddechreuodd hi fwrw eira’n drwm! Roedd fel petai fod diwedd y byd ar ei ffordd. Yn ogystal i’r tywydd eithafol, doedd dim trydan na dŵr, doedd dim hyd yn oed trydan i bweru goleuadau traffig ar y ffyrdd, er hyn, drwy ryw wyrth, ni welais un damwain ar hyd y ffordd wrth yrru i’r ddinas i nôl fy nghariad.
Noswaith oer, tywyll ac ansicr a ddilynodd y daeargryn. Dim ffon, dim radio, dim teledu, dim clem be i’w wneud nesaf. Er fod nam ar y rhwydweithiau ffon, roedd y rhyngrwyd ar fy ‘ffon ddeallus’ dal i weithio am rhyw reswm, oherwydd hyn roedd o’n bosib i ni ddefnyddio skype. Sicrhaodd hyn ein bod ni’n medru cysylltu â’n teuluoedd a thawelu eu meddyliau drwy gadarnhau ei’n bod ni’n iawn. Ond ar y llaw arall roedd hyn yn golygu fod y cyfryngau yn gallu cysylltu â ni. Mae ganom ni gysylltiadau gyda’r cyfryngau a oedd yn golygu ein bod ni’n ffynhonnell hawdd i’w ymelwa. Mi wnaethom ni wario rhan helaeth o’r noson yn siarad â gwahanol orsafoedd radio yn ceisio esbonio’r sefyllfa heb godi cyffro. Roedd hyn yn flas o’r wythnos i ddod.
Codi’n fore ar y dydd Sadwrn i weld diwrnod braf, euraidd o wanwyn tu allan, gwrthgyferbyniad llwyr i’r noswaith fagddu. Ar y strydoedd, roedd yna deimlad o undod ond hefyd dadleoliad. Roedd fel petai fod pawb eisiau bod gyda’i gilydd ond yn ogystal, dianc eu tai a oedd wedi bod yn garchar ansicr iddynt neithiwr.
Heb drydan, nwy, dwr, bwyd na diod yn y tŷ, ar ein beiciau yr aethom i geisio ffeindio bwyd. Doedd dim byd ar gael, roedd y mwyafrif o siopau wedi gwerthu allan o fod dim yn barod. Ar ei’n ffordd yn ôl drwy’r dref aethom ni heibio gwesty ‘pizza’ bach gwych ‘da ni’n nabod, yr un pryd daeth y cogydd allan a gweiddi arnom ei fod o ar agor! Gan ei fod o’n defnyddio popty pizza ‘go iawn’ nid oedd angen unrhyw drydan arno, ac oherwydd bod y trydan wedi diffodd roedd rhaid defnyddio holl y cynhwysai yn ei oergell. I dorri stori hir yn fer, pobodd pedair pizza i ni am ddim a’i becynnu er mwyn eu cymryd adref. Dyma un o nifer o storïau gwych i mi fod yn dyst iddynt a hefyd clywed am. Trwy gydol y drafferth roedd pawb yn hapus i helpu unrhyw un, ni welais unrhyw un yn gweiddi nac yn creu stŵr mewn unrhyw sefyllfa.
Dydd Sadwrn, ar ôl ei’n cinio brenhinol, aethom ar ein beics i dŷ ei’n ffrind sy’n byw yn ninas Yamagata. Am ryw reswm, roedd gan ei bentref o drydan erbyn bore dydd Sadwrn felly aethom yna i ymlacio a chael cawod.
Ar ôl ymlacio, bwyta a cymharu straeon wnaethom ni droi’r teledu ymlaen a cael golwg cyntaf o’r drychineb a ddatblygodd ar ôl i’r tsunami hunllefus rwygo drwy trefi arfordirol Fukushima, Miyagi ac Iwate. Y nerth, nerth y don du yn sgrafellu trwy’r strydoedd yn hollti ac wedyn yn sugno pob dim i’w berfeddion. Anodd oedd gwylio’r newyddion, gan fod Yamagata mor agos roeddem ni wedi bod i nifer o’r ardaloedd ar ein gwyliau. Un ardal wna’i byth anghofio yw Miyako yn Iwate, tref arfordirol yw Miyako, wedi ei amgylchynu gyda milltiroedd o draethi hyfryd ac môr grisial glan. Fy atgof olaf o Miyako nawr yw gweld y don du ‘enwog’ yn torri dros forglawdd y ddinas fel arwydd o ddiwedd yr hyn yr ydym yn gwybod.
Dros nos Sadwrn daeth mwy o alwadau gan y cyfryngau a ddaeth yn anoddach i oddef eu hanwybodaeth, erbyn hyn roedd gwir faint y trychineb wedi’n nrhawo fi. Unwaith eto, i dorri stori hir yn fer ar ddydd Sul wnaethom ni dderbynio galwad gan BBC24 yn dweud eu bod nhw tu allan i’r fflat lle roedden ni’n aros. Wnaeth fi a’n nghariad gwario gweddill yr wythnos yn gyrru ceir i’r ardaloedd wedi’i effeithio gan y tsunami, ceisio ei’n gorrau i gyfiaethu, bod yn weision bach yn gwneud pob dim ac hefyd yn cynnal cyfweliadau byw ar y teledu a’r radio. Mae ‘na siawns dda eich bod chi wedi gweld/clywed fi a’n nghariad ar y BBC neu Radio Cymru dros wythnos gyntaf y daeargryn. Dros yr wythnos teimlais bob emosiwn posib (heblaw hapusrwydd), tristwch a poen i weld y bobl yn rhedeg i lawr ffyrdd yn frith a malurion yn poeni am y tsunami nesaf gyda holl eu heiddo mewn gorchudd gwely dros eu cefnau. Blinder tuag at y cyfryngau yn cymryd mantais o sefyllfa hunllefus ac yn ei drin fel ras i gael y stori gyntaf/naratif gorau. Ofn ac ansicrwydd wrth glywed am y pwerdy niwclear yn Fukushima, gweld y sefyllfa’n gwaethygu pob dydd, newyddion camarweiniol yn dod o bob cyfeiriad, neb yn siŵr beth i’w wneud. Balchder ym mhobl Japan yn sefyll mor gryf mewn sefyllfa mor ofnadwy, degau o filoedd wedi marw, cannoedd o filoedd wedi’i dadleoli, ond roedd y bobl dal i geisio byw bywyd o ddydd i ddydd drwy roi help llaw i’r rhai mwy anffodus. Ond wedyn teimlo fel llwfrgi, neu fradwr, yn gadael fy ffrindiau tu ôl a rhedeg yn ôl adref i Gymru fach. Dwi dal ddim yn siŵr os wnaethom ni’r penderfyniad iawn? Dychwelais yn ôl i Japan bythefnos yn ddiweddarach wedi drysu’n drylwyr, ond yn falch iawn o fod yn ôl.
20 munud o ganol Sendai
Erbyn hyn dwi’n meddwl fod llawer o bobl wedi colli trywydd ar yr hyn sy’n digwydd ac wedi cael ei dal yn yr ‘aisatsu’ (cyfarchion) jargon sydd mor ddibwys a hepgor sy’n datgysylltu’r boblogaeth (sydd heb ei heffeithio) hyd yn oed bellach o’r achos.
がんばろう日本!Daliwch ati Japan.
がんばろう東北!Daliwch ati Gogledd Ddwyrain Japan.
Er bod gwir deimlad tu ôl y ‘cyfarchion’ yma, mae nhw dal i fod yn ymadroddion syth allan o batrymlun fel petai, rhy hawdd i’w dewis a hefyd rhy hawdd i’w hymadrodd.
Mae angen canolbwyntio ar y bobl sydd wedi colli pob dim a rhoi diwedd i ymelwa ar y cyfarchion gwag drwy hysbysebu diegwyddor.
Gobeithio bydd gan y llywodraeth y rhagwelediad i ymddiried yn y bobl a rhoi’r grym iddynt helpu gyda’r datblygiadau i’w cymunedau.
Mae’n teimlo fel pe bai pethau’n dychwelyd yn ôl i ryw ‘normaliaeth’ ond ni fydd unrhyw beth yr un peth yn y wlad yma byth eto. Mae rhai ardaloedd a rhan o boblogaeth gogledd ddwyrain Japan wedi ei’n gadael ni am byth, ac wedi gadael twll mawr yng nghalon y bobl a’i diwylliant.