Yn ogystal â thynnu lluniau gyda’r camera fy mwriad oedd i gymryd fideos. Felly gyda hyn mewn golwg penderfynais brynu camera DSLR a oedd yn medru cymryd fideos 1080p am 24fps (frame per second) sy’n sicrhau’r ‘filmic look’ (mae’n llygaid ni i gyd wedi dod i arfer gweld ffilmiau yn y sinema e.e. yn rhedeg am 24 ffrâm yr eiliad, sy’n golygu bod ffilmio fideos yn y ffurf yma’n fuddiol dros ben). Rheswm arall am gymryd ffilm gyda DSLR yw’r ffaith ei bod hi’n bosib dal dyfnder y llyn llawer gwell gyda lensiau ymgyfnewidiol.
Felly dechreuais dynnu fideos o fywyd yn Yamagata. Ar ôl cymryd y fideo mae’n rhaid graddio/cywiro’r lliwiau mewn rhaglen, mae’r gamp yma’n lletchwith ac anodd ond ‘dw i ‘di dod i fwynhau’r broses. Wedyn mae’n rhaid golygu a phwytho holl y clipiau at ei gilydd.
Cafodd y fideo yma ei saethu ar y 29 o Fedi ar Canon 550D (Magic Lantern). Defnyddiais Magic Bullet Looks i gywiro’r lliw a Premiere Pro i olygu’r fideo.




Difyr a diddorol. Yn cyfleu heddwch y goedwig a chyffro beicio. Be di’r cerdodriaeth?
By: dadansoddwr on Hydref 6, 2011
at 8:18 pm
Diolch! James Blake: CMYK
By: siondafydd on Hydref 6, 2011
at 11:25 pm