Cyhoeddwyd gan: siondafydd | Ebrill 6, 2010

Sut Hwyl?

Henffych!

Dim ond cyflwyniad cyflym i’r blog.

Dwi’n byw yn Japan ar hyn o bryd ac eisiau rhannu fy mrhofiadau, ac hefyd mae gen i gôf tebyg iawn i ridyll, felly dwi’n gobeithio fydd y blog yn rhoi cyfle i mi gofio mwy.

Un rheswm arall dwi ‘di magu diddordeb mewn ‘sgwennu blog ydi i’m alluogi i mi wella fy Nghymraeg tra fy mod i’n byw yma yn Japan, yn dysgu Japaneaidd ac yn addysgu drwy gyfrwng y Saesneg.

Ble dwi’n byw?

Mae'r bobl leol mor falch bod eu sir yn edrych fel gwyneb!

Mae Yamagata yn ardal hynod o ddiddorol, wedi’i leoli yng nghanol y mynyddoedd sy’n rhedeg drwy ogledd Japan. Gwlad fynyddig dros ben yw Japan, does ‘na ddim dianc y tyrth siwgr sy’n ymddangos o ‘n’unlle.

‘Sir’ neu 県 (ken) yn Japaneaidd yw Yamagata yn rhanbarth 東北 (Tohoku).

Dwi’n byw mewn dinas fach o’r enw 上山市 Kaminoyama, sydd o gwmpas 20munud mewn car o ddinas 山形市 Yamagata.

Dinas hynod o ddiddorol ‘di Kaminoyama, ni faswn i’n ei alw’n ddinas yn bersonol, mwy fel tref fach ryfedd! Does fawr ddim i’w neud yma os ‘dach chi’n hoffi siopa o unrhyw fath ond mae yna ddigonedd o ryfeddodau i’w gweld!


Responses

  1. Difyr iawn. Edrych ymlaen i ddarllen am ryfeddodau Kaminoyama.

  2. Hi Sion! Mi nes i fwynhau dy Flog dros ben! Ti wedi cael hwyl arni! Cofia fi at Laura. Llawer o gariad,
    Mam xxxx


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: