Cyhoeddwyd gan: siondafydd | Ebrill 7, 2010

Amser cofio…

Mewn gwirionedd dylwn i wedi dechrau’r blog yma dros flwyddyn a hanner yn ôl pan gyrhaeddais i Japan. Ond dwi’m yn un da i eistedd i lawr a ‘sgwennu heb fod rhaid, er gwaethaf hyn mi nai roi cynnig teg i’r dasg.

Dechreuodd fy nhaith ym mis Gorffennaf 2008 ar ôl misoedd o lenwi ffurflenni cais, teithio rownd a rownd i Lundain fel chwyrligwgan gwallgof. Heb sôn am y ffaith mod i ‘di torri fy nghoes yn uffernol o dda ym mis Rhagfyr a dal mewn cast llawn o’n nglin i’m troed nes mis Ebrill! Roedd o’n real poen yn y pen ôl gorfod teithio i lawr ar y trên ac wedyn teithio ar draws i dy chwaer fy nghariad ar y tiwb. Mae pobl yn real bastard weithiau! Yn enwedig pan ti’n cyrraedd cyfweliad dim ond i ryw shit haerllug edrych ar fy nghoes a gofyn ac o’n i’n gallu dringo grisiau gyda’r goes yna! Ar ôl eiliad o honna i’n hedrych arno’n flin ‘naeth o newid ei feddwl a’n gadael i gymryd y lifft?

Rhywsut nes i guro yn y prawf gramadeg Saesneg(?) ac yn y cyfweliad ‘good cop, bad cop’ a ro’n i ar y ffordd i Japan! Sans y goes wedi torri.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: