Dwi’m yn un i drefnu, na chymryd sylw o unrhyw beth tan y munud ola’, felly do’n i ddim yn rhy siŵr beth i’w ddisgwyl yn dod i Japan. Felly cyn mynd nes i ddim gwneud lawer o ddarllen am y wlad na chwaith ormod o ymchwil ar y rhyngrwyd achos roeddwn i eisiau darganfod Japan dros fy hun a chael fy mhrofiadau fy hun heb orfod eu cymharu gyda safbwynt rhywun arall. Y rheswm arall oedd fy mod i mor anwybodus doedd gen i ddim gobaith dysgu unrhyw beth gwerth chweil cyn cyrraedd, a sut ffordd well i ddysgu nac wrth fynd yna!
Felly pam nes i fynd os o’n i mor anwybodus am y wlad? Wel, mae gen i ddiddordeb mawr mewn teithio a dysgu am/profi diwylliannau gwahanol, bwydydd gwahanol a phobol wahanol. Mewn ffordd dwi’n hynod o falch nad oedd gen i unrhyw farn am y wlad cyn dod, mi oedd gen i ‘chydig bach o wybodaeth ond roedd y wybodaeth yma’n hollol anghywir. Dwi ‘di sylwi mwy a mwy bod rhagdybiaeth pobl am Japan yn bell i ffwrdd o’r gwir.
Yn gyntaf mae’r bwyd mor wahanol, dydyn nhw ddim yn bwyta rhan fwyaf o’r sushi ma’ pobol yn byw ym Mhrydain, mae nhw’n hoff o bysgod ffres ar gacen fach o reis gyda darn bach o wasabi. Dydyn nhw ddim yn rhy hoff o holl y sushi sydd wedi’i goginio’n barod, neu wedi’i rolio gyda choesau cranc wedi’i fatro yn neidio allan o’u canol. Dim bod hyn yn beth drwg, dwi’n ei fwynhau o ond dydyn nhw ddim yn ei fwyta. (mae yna eithriadau w’thgwrs)
Mae sushi hefyd yn fwyd maent yn bwyta ar achlysuron arbennig, dydyn nhw ddim yn ei fwyta’n rhy aml. Enghraifft arall, mae katsu kare yn draddodiadol a bron pob tro wedi’i wneud o borc dim ciw iâr. Dwi’n clywed pobol yn sôn bod nhw wedi bod am bryd Japaneaidd ac wedi cael ciw iâr wedi ffrio a curry, mae ‘katsu’ yn air wedi’i ddwyn o’r Saesneg sy’n golygu pork cutlet. I mi, y bwyd ydi un o nodweddion gorau’r wlad, yn y ffaith ei fod mor wahanol i be o’n i’n disgwyl. Dwi’n siŵr nai siarad am fwyd mewn llawer mwy o ddyfnder rhywdro arall. Dwi’n dallt fy mod i’n malu cachu am y ffordd ‘da ni’n meddwl am eu bwyd nhw, mae nhw yr un mor ddrwg os dim gwaeth am fastardeiddio bwydydd tramor! Yn enwedig bwyd Eidalaidd a Ffrangeg. Nes i unwaith gael pizza gyda wy ‘di sgramblo, tatws a bwyd mor, ‘odd o’n fuckin’ uffernol.
Dwi’n sicr fod llawer o bobol yn credu ei bod nhw’n gallu dod ar ei gwyliau i Japan, yn enwedig Tokyo, Kyoto a.y.b. a gallu siarad Saesneg heb ormod o drafferth. Yn anffodus i’r bobol yma nid yw hyn yn wir, mae Japan yn gallu bod yn le caled i deithio ynddo weithiau. Wrth edrych o gwmpas mewn dinas fel Tokyo, mi fasach yn credu bod Saesneg fel ail iaith gan fod ‘na cymaint o arwyddion yn yr iaith. Ond mae grap y bobol ar yr iaith Saesneg yng ngwrth gyferbynnu gyda hyn, dydi’r mwyafrif o bobol ddim yn rhy dda yn yr iaith.
Dim ond rhestr fyr iawn o’r gwrth gyferbyniadau rhwng safbwynt pobol o’r dwyrain ar Japan yw hyn, nes i gael siom ar yr ochor orau. Dwi’n credu fod holl y gwahaniaethau yma’n ychwanegu tuag at ansawdd gyfoethog y wlad.
Mae’n wlad glan (byth yn gweld ysbwriel ar y stryd) parchus, prydferth (mae’n rhaid chwilio am y prydferthwch weithiau, dydi o ddim wastad yn amlwg) a lot o hwyl.
Helo Sion,
Dw i newydd ddod yma wedi gweld y kanji ar enw dy flog ar flogiadur. Mae’n ddiddorol darllen dy hanes. Un o Japan dw i ond yn UDA dw i’n byw bellach.
By: Emma Reese on Ebrill 27, 2010
at 2:55 am
Sut hwyl Emma,
Braf clywed bod rhwyn yn darllen y blog! Dwi’m eisiau bod yn hu ond beth yw eich hanes chi? Mae’n swnio fel stori diddorol dros ben i mi, un o Japan yn symud i’r UDA ac yn dysgu Cymraeg? Beth wnaeth eich ysbarduno i ddysgu Cymraeg?
Pob hwyl,
Siôn.
By: siondafydd on Ebrill 27, 2010
at 8:01 am
Ces i fy nghyfareddu gan hanes Cymru a’i hiaith. Dechreuais i ddysgu yn 2003 ar fy mhen fy hun. Gwnes i ddau gwrs trwy’r post hefyd.
Beth wyt ti’n ei wneud ar wahân i ddysgu Japaneg? Wyt ti’n dysgu Saesneg fel athro? O le wyt ti’n dod?
By: Emma Reese on Ebrill 27, 2010
at 10:58 pm
Diddorol iawn Emma! Llongyfarchiadau, mae’ch Cymraeg chi’n wych, llawer gwell na nifer o Gymry Cymraeg hyd yn oed! Mae’n gamp gallu dysgu’r iaith i safon mor dda mewn cyn lleiad o amser mewn gwlad ddieithr i’r iaith. Sut cawsoch eich swyno gan y wlad? ‘Dwi ‘di clywed o’r blaen bod Oklahoma yn gadarnle’r iaith Gymraeg yn yr UDA, pam hynny?
Dwi’n un o dde Cymru’n wreiddiol, Casnewydd i fod yn benodol, wedi symud i ogledd Cymru pan yn blentyn. Rŵan mae fy nheulu’n byw ar drothwy Parc Cenedlaethol Eryri, mewn tyddyn bach bach uwchben Dyffryn Conwy. Mae’n ardal hynod o braf llawn natur, Maenan yw enw’r pentrefan. Wyt ti wedi bod i Gymru?
Dwi’n gweithio fel athro Saesneg yma! Dyma un o’r rhesymau pam dwi’n ‘sgwennu’r blog, i gofio fy Nghymraeg.
Siôn
By: siondafydd on Ebrill 28, 2010
at 8:30 am
Mae ‘na rywbeth arbennig o ddeniadol am y ffaith bod Cymru fach a’r hen iaith yn dal i fyw dros ganrifoedd ‘er gwaethaf pawb a phopeth.’
Dw i’n credu’n siŵr bod y Cymry Cymraeg yn byw ym mhob man yn y byd bellach ond yn Oklahoma!
Do, bues i yng Nghymru ddwywaith a dw i’n gwirioni ar y Gogledd ond heb ymweld â Maenan eto. A dweud y gwir, bydda i’n mynd i Ynys Môn a Gwynedd y mis nesa.
Ydy’r bobl yno’n ymwybodol fod ti’n medru Cymraeg? Beth wnaeth dy symbylu di i ddewis Japan ymysg yr holl ddiwylliannau gwahanol?
By: Emma Reese on Ebrill 28, 2010
at 1:05 pm
Dwi’n falch eich bod chi’n mwynhau Cymru cymaint! Dwi’n teimlo balchder mawr pan ‘dwi’n meddwl am Gymru a’i iaith.
Teithio i Ynys Môn (Mam Cymru) a Gwynedd mis nesaf! Gwych! Beth yw eich cynllun? Mae Môn a Gwynedd yn ardaloedd hyfryd, a hefyd yn gadarnle i’r iaith Gymraeg. Os ‘dach chi eisiau unrhyw syniadau gofynnwch unrhyw bryd, mae Conwy a Gwynedd fy ‘ngardd cefn’ i fel petai. Os oes ganddo’ch chi ddiddordeb mewn cestyll mae castell Conwy yn wych, gyda wal yn amgylchu’r dref. Mae Môn yn llawn hanes Celtaidd a megalithig, gyda degau o gromlechi. Mae yna le o’r enw Tre’r Ceiri ym Mhen Llyn (Gwynedd) sydd yn gaer fynyddig o mor gynnar â150 A.D. Gallwch weld adfeilion cytiau cerrig pobl yr Oes Haearn, dwi’n meddwl ei fod yn le hudolus dros ben!
Mae ‘na ambell i reswm pam ‘dwi yma yn Japan, roeddwn i eisiau teithio’r byd a byw mewn diwylliant gwahanol, es i i China pan o’n i’n 20 oed, rhoddodd hyn flas i mi deithio i Japan. Naeth rhywun dwi’n nabod yng Nghymru fyw yn Japan hefyd felly roeddwn i wedi siarad â hi a thanio fy niddordeb! Dwi’n hynod o falch nes i ddewis Japan, dwi’n mwynhau fy hun yn arw!
By: siondafydd on Ebrill 30, 2010
at 10:41 am
Dw i’n mynd i aros efo ffrindiau. Baswn i isio cymryd rhan naturiol yn y pethau bob dydd yn yr ardaloedd Cymraeg y tro ‘ma wedi mwynhau golygfeydd rhyfeddol ac Eisteddfod y Bala ar y teithiau cynt.
Ces i gip sydyn ar Dre’r Ceiri rŵan. Mae honna’n anhygoel. (Rhaid cyfaddef mod i heb wybod amdani hi.)
Falch o glywed fod ti’n hapus yn Japan. Wyt ti’n mwynhau dysgu Japaneg? Oes gen ti gyfle i siarad Cymraeg o gwbl yno?
By: Emma Reese on Ebrill 30, 2010
at 1:22 pm
Braf iawn! Dyna’r peth gorau i’w wneud, treulio amser gyda’r bobl frodorol yn gwneud pethau pob dydd. Mae’r ‘Steddfod yn lot o hwyl, pan yn blentyn roeddwn i a fy chwaer wedi cymryd rhan yn y seremonïau, hi yn nawns y blodau ac roeddwn i a’m ffrind yn facwy.
Dwi’n cael cyfle i siarad Cymraeg yn eithaf aml gyda’m nheulu, mae fy nghariad yn Gymraes ac yn byw ‘efo fi yn Japan felly dwi dal i gadw’r iaith yn mynd.
Dwi’n ffeindio Japaneg yn uffernol o galed, a hwyl! Ond dwi’n bwrw ‘mlaen!
Mae fy ffrindiau o Japan yn dwli dysgu geiriau Cymraeg, mae nhw’n gallu ynganu geiriau’n wych!
By: siondafydd on Ebrill 30, 2010
at 2:35 pm