Cyhoeddwyd gan: siondafydd | Mai 14, 2010

Wythnos fwy llwyd nac aur

Diflannodd fy nyfalbarhad i ‘sgwennu’r blog yma dros y ddwy wythnos diwethaf! Fy nyfal barhad a’r ffaith gollais i fy ffon ac ar yr un noson ffrwydro’n rhyngrwyd… gont. Collais bob cyswllt a’r byd ar yr ail ddiwrnod o wyliau cenedlaethol yn Japan o’r enw’r ‘Wythnos Euraidd’, dros yr wythnos mae’r rhan fwyaf o bobl yn mwynhau gwyliau, doedd fy ffrindiau i ddim yn eithriad, ac yn amlwg roeddwn i eisiau gwario cymaint o amser gyda nhw ac oedd yn bosib. Yn anffodus roedd diffyg unrhyw fath o flydi technoleg gwybodaeth a chyfathrebu wedi cael yr effaith eithaf ar fy nghynlluniau. Bu farw fy ngwyliau ar ei din unig.

Beth bynnag, dyna ddigon ohona i’n crio, nes i gael amser braf ar y noson dyngedfennol yna. Cwrddais fy ffrind yn y parc am ‘ddrinc’ o gwmpas 4 o’r gloch. Roedd y blodau ceirios dal i fod ar y coed ac roedd y tywydd yn hyfryd go iawn. Ar ôl hyfrydu dros y blodau a thorri’n syched, i siop beicio ei’n ffrind yr aethom ni. Roedd o’n brysur difyrru BMXwyr proffesiynol o Tokyo. Roedd pawb yn yfed a siarad a chawsom amser pen i gamp! Wedyn i’r dafarn ac yna i Karaoke i ganu! Job iawn de!

Miso Ramen hynod o flasus ar ddiwedd y noson! Blasus dros ben.

Codi bore dydd Sul a sylweddoli fy mod i wedi creu ynys o’m hun!

 Ond cymerais fantais o sefyllfa sâl drwy feicio pobman yn y tywydd braf a ‘sgwennu cerddoriaeth ar y cyfrifiadur.

Ar fy meic, diwrnod hyfryd i weld castell Kaminoyama a'r blodau gydai'i gilydd.

柿 (kaki) persimmon yn saesneg un o fwydydd 'enwog' Kaminoyama. Blasus iawn, dipyn fel cyfuniad o oren a tomato.

Unwaith eto ar fy meic

Post arall cyn gynted â phosib ar ŵyl a ddigwyddodd penwythnos diwethaf!

Tara.


Responses

  1. Mae dy luniau’n wych. Dw i’n hoff iawn o miso ramen hefyd.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: