Cyhoeddwyd gan: siondafydd | Mai 18, 2010

Hwyl yr ŵyl

Ar ôl wythnos o greu smonach o’m hyn, penderfynodd fy nghariad Laura, nad oedd hi’n syniad penigamp i’m gadael yn ddi-warchod am gymaint o amser. Daeth mam Laura drosodd o Gymru am wyliau ac aeth y ddwy ohonyn nhw am grwydriad o gwmpas Japan. Pan ddaethon nhw’n ôl a ffeindio fi wedi troi i mewn i ddyn gwallgof ar ôl gormod o unigedd ‘naethom ni i gyd penderfynu ei bod hi’n hen amser i mi adael y tŷ! Dros y penwythnos roedd gŵyl yn digwydd yn y ddinas, gŵyl planhigion wedi’i potio, llwyni a choed bach 植木祭り(ueki matsuri) yn Japaneaidd. Mewn ardal fach o’r ddinas digwyddodd yr ŵyl, wedi’i chanolbwyntio ar ddwy ffordd sy’n croesi’i gilydd. Roedd un ffordd gyda’r blodau a holl ardd bethau a’r llall yn croesi gyda holl y daioni dylai unrhyw ŵyl gwerth chweil yn Japan gael, sef, bwyd, diodydd uffernol o felys, fferins, mygydau plant, miri o wahanol gemau ffair a mwy o fwyd.

Bananas Ymbelydrol, neu チョコ バナナ (choco banana) neu bananas wedi eu gorchuddio gan siocled cŵn.

Mae canolbwynt y ffair erbyn heddiw wedi newid o fod yn ffair ble mae pobol yn dod o bell i werthu eu planhigion i fod yn ffair ble mae pobol yn dod o bell i werthu eu bwyd! (i fod yn blwmp ac yn blaen, ‘sgen i’m gormod o ddiddordeb mewn coed bach wedi’i arteithio chwaith)

Roedd y gwerthwyr bwyd wedi dod o bobman ar draws Japan, ac roedd yn bosib gwledda ar amrywiaeth maith o fwydydd gwahanol. Bwyteais gyouza anferthol, dipyn yn wahanol i gyouza traddodiadol achos eu bod nhw mwy fel bap wedi’i ffrio gyda porc wedi’i minsio a rhyw fath o arlleg sy’n edrych fel garlleg gwyllt! Yum!

Dyma'r gyouza anferthol a oedd yn flasus tu hwnt!

Mae plant yn gally mynd i’r  ŵyl, gwisgo mygydau a trio dal pysgod aur gyda tamaid o bapur! Y tric ydi taflu’r ‘sgods o’r dŵr i’r bowlen cyn i’r papur dorri.

Lliwiau llachar y mygydau

Laura, ei mam a fi yn yr ŵyl.

Roedd yr ŵyl yn boblogaidd iawn gyda phlant ysgol uwchradd, roeddent allan yn eu llu yn mwynhau amser i ymlacio ac ymddwyn yn ddrwg (yn ôl safon Japan) Gwisgo gemwaith yn eu clustiau, ysmygu a gweiddi! Braf gweld pobl ifanc yn cael hwyl!

Tan Toc!

Roedd y gwerthwyr bwyd wedi dod o bobman ar draws Japan, ac roedd yn bosib gwledda ar amrywiaeth maith o fwydydd gwahanol. Bwyteais gyouza anferthol, dipyn yn wahanol i gyouza traddodiadol achos eu bod nhw mwy fel bap wedi’i ffrio gyda porc wedi’i minsio a rhyw fath o arlleg sy’n edrych fel garlleg gwyllt! Yum!

Responses

  1. Mae’r post ‘ma’n fy atgoffa i o fy mhlentyndod. Basai fy mab wrth ei fodd efo’r gyoza anferth!

  2. gyoza anferth?
    waw!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: