Cyhoeddwyd gan: siondafydd | Tachwedd 19, 2010

紅葉 こうよう Koyou… neu ‘Dugoch y Dail’

Dwedodd rhyw ddewin deallus mai dim ond dau dymor sydd yma yn Japan, ‘Sedd y tŷ bach ‘on’ a sedd y tŷ bach ‘off’. Pan ddywedodd hwn roedd o’n cyfeirio at esblygiad blynyddol y tai bach estron sy’n cael eu defnyddio yn y wlad dechnolegol yma. Dwi’n siŵr fod y mwyafrif o honnoch chi wedi clywed am dai bach yn y wlad yma, y tai bach a’r sushi hynny yw. Mae’r tai bach yn gwneud pob dim i chi, mae’r seddi’n codi pam ‘dach chi’n cerdded o’u blaen, maent yn gallu siarad â chi, neu chwarae cerddoriaeth, neu chwarae sŵn ‘fflysh’ moesgarwch……. Hefyd mae ganddynt y naws i lanhau eich pen ôl a’i sychu os dyna yw eich dymuniad! Ond eu swyddogaeth bwysicach yw i gadw’ch pen ôl yn gynnes drwy gydol y gaeaf hir… ‘Eniwe’  ma’ nw ymlaen rŵan!

紅葉 こうよう Koyou, neu ‘dugoch y dail’

Pa rif odd y Nihonshu diwethaf 'na?

Pa rif odd y Nihonshu diwethaf 'na? Zaoooooooooooooo

Fel sgriblais oes yn ôl ym mis Ebrill am y hanami neu ‘gwylio’r coed ceirios yn blodeuo’ mae Koyou yn digwydd yn yr Hydref, a’r gêm yw edrych ar y coed yn marw. Roeddwn i’n amheus, ‘dwi’n clywed pobl Japaneaidd yn sôn am y ‘Koyou’ trwy’r amser, yn fy mhen ro’n i’n meddwl, ‘fydd o’r un peth ag adre, dim gwahaniaeth o gwbl’ fel arfer roeddwn i’n anghywir, hynod o anghywir. Dwi’m yn siŵr pam, efallai bod ‘na mwy o goed yma nac adre, efallai mai’r math o goed sy’n gwneud y gwahaniaeth ond trwy gydol mis Hydref a Thachwedd mae fel petai’r mynyddoedd ar dan. Arlliw o goch, melyn, oren a gwyrdd yn trawsnewid pob dydd i greu’r rhith o dan yn llosgi yn eich dychymyg.

Felly, ar fy nheithiau beicio pob penwythnos dwi ‘di bod yn cymryd lluniau o’r lliwiau trawiadol.

Fflachddu

Haul yn tywynnu'n isel yn y nen, yn taflu golau trwy dail euraidd y goeden ar brynhawn bendigedig o Hydref.

Dail

Dail gwiniolen Japaneaidd, mae'r coed yma'n ychwanegu sawl lliw i wybren yr Hydref.

もみじ

もみじ

かもしか

かもしか ei'n ffrind fyny'r mynydd. Gafr gwyllt.

もみじこえん

もみじこえん Parc gwiniolen yn y ddinas.

Y diwedd.


Responses

  1. wooooow lluniau anhygoel!!!!!!!

  2. Ella bod yna goed arbenning sy’n troi’n llachar yn Japan. Mae dy luniau’n ardderchog.

    • Diolch am dy sylwad! Lliwiau wedi bod yn anhygoel, ond nawr yn brysur diflannu i grafangau’r gaeaf.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: