Cyhoeddwyd gan: siondafydd | Rhagfyr 22, 2011

Draig yr Hydref

Yn ôl gyda fidio arall. Ma’r gaeaf wedi cyrraedd Japan ‘go iawn’ rŵan. Da’ ni yn ei chanol hi rŵan, yn wynebu tridiau o storm eira dros ‘Dogig. Felly mae’n hen bryd i mi orffen golygu’r fidio yma cyn i Hydref nesa dal i fyny ‘da fi!
Diwrnod cyfan o ffilmio, gyda’r ddau ohonom ni’n rhedeg yn ôl ac ymlaen, i fyny ac i lawr y llethrau (mynydd sgïo) serth i nôl y camera!
Enw’r mynydd ydi Ryusan sef Mynydd y Ddraig, wedi ei leoli yn Zao, Yamagata. (Cliciwch i weld map o’r daith)
Dwi’n ceisio cyfleu harddwch yr ardal yn ogystal ag unigedd (‘da ni erioed wedi cyfarfod a neb yn y mynyddoedd) a hefyd hiraeth.

Mwynhewch!


Responses

  1. Wedi mwynhau’r fideo’n fawr. Mae harddwch a heddwch yn sgubo dros rhywun wrth i wylio. Mae’n hefyd yn creu’r argraff o daith ysbrydol. Wrth fy modd efo’r ffordd mae rhai o fframiau yn toddi i fewn i’w gilydd. Mae’r cerddoriaeth yn gyfeiliant gwych hefyd.
    Hyfryd.
    Mwynhewch y Nadolig Gwyn!

  2. Dwli ar liwiau’r dail!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: