Cyhoeddwyd gan: siondafydd | Hydref 14, 2013

Newid Cyfeiriad / A Change in Direction

Ers dychwelyd ‘nol o’n hanturiaethau yn Japan a gweddill Asia, dwi wedi penderfynu dilyn fy ymddiddoriaeth mewn materion cyfoes yn y newyddion a ffilmio i geisio fod yn newyddiadurwr. Rydw i’n astudio MA mewn Newyddiaduriaeth Teledol ym Mhrifysgol City yn Llundain. Un rhan bwysig o’r cwrs yw adeiladu presenoldeb ar y we. Felly, yn ogystal â phostio ffilmiau a lluniau mi fyddwn yn ceisio dal trafodaethau a sôn am newyddion cyfoes sy’n fy niddori i. Cymerwch ran mewn unrhyw drafodaeth sy’n eich diddori chi, neu gadewch nodyn os dwi’n eich diflasu!

Since returning home from our adventure in Japan and the rest of Asia I decided to follow my interest in current affairs, the news and filming and become a journalist. I’m currently studying TV Journalism at City University London. One integral part of the course is to establish an online presence. So, as well as continuing to post films and photography I will be attempting to hold discussions and opinions on any current affairs that interest me. Please feel free to join in conversations!

Cyhoeddwyd gan: siondafydd | Awst 11, 2012

Hwyl Fawr Japan

Yna anffodus mae fy amser yn Japan wedi dod i ben. ‘Dwi ‘di mwynhau fy hun cymaint dros y pedair blynedd diwethaf, mae gen i atgofion nai fyth anghofio. Cefais gyfle i wneud cymaint o ffrindiau gwych a chael fy nerbyn i’r gymuned.
Mae’n drist iawn gorfod gadael ond dwi’n gwybod bydd gen i ail gartref yn y fan yma yn Yamagata.

Yn dechrau rŵan dwi’n mynd ar antur pum mis o amgylch Asia, rhan gyntaf y daith fydd Taiwan, wedyn China, Mongolia, Indonesia…..

Dwi’n gobeithio sgwennu’n gyson am bob dim fyddai’n gweld, yr amseroedd gwych a’r anffawd.

Diolch am ddarllen hyd yn hyn.

Siôn

Cyhoeddwyd gan: siondafydd | Mehefin 9, 2012

Calan Newydd Yn Japan

 

Mae’r fideo yma wedi bod yn carlamu o gwmpas fy mhen ers i mi ei ffilmio ar nos calan llynedd. Nes i ddioddef o’r hen bloc creadigol am gwpl o fisoedd ond, diolch byth, dwi ‘di gallu dringo allan o ddyfnderoedd llethol y bloc i greu’r clip yma.

Yn y fideo yma dwi ‘di trio dal fy nheimlad i o Noson Calan Newydd yn Japan. Mae hi’n noson dawel, oer a llonydd, llawn tanau’n llosgi, cysgodion yn dawnsio a gwreichion yn tasgu trwy’r wybren dywyll.

Fel arfer mi fydd pobl yn cerdded o’u tai i’r deml agosaf i weddïo ond hefyd i losgi tlysau lwc dda a wnaethon nhw eu prynu llynedd.

Croeso i chi ofyn unrhyw gwestiynau.

Diolch.

Cyhoeddwyd gan: siondafydd | Mehefin 8, 2012

もっちゃん Mochan

 

Wedi bod yn trio golygu y tomen o fideos sydd gen i’n pentyrru yn fy nisc caled. Dyma ‘time lapse’ bach a chynhyrchais un noswaith fel arbrawf, mwy i ddod yn y dyfodol.

Mwynhewch.

Sion.

Cyhoeddwyd gan: siondafydd | Mawrth 14, 2012

Gaeaf

Ma’ hi ‘di bod yn aeaf ofnadwy o hir, tunelli o eira wedi syrthio, dal i syrthio, lluwch eira ym mhobman ond yn bwysicach llwch eira dwfn dros y mynydd sydd wedi bod yn berffaith i eirfyrddio! Dyma raglun o’r gaeaf gorau o eirfyrddio erioed.

Mwynhewch!

Cyhoeddwyd gan: siondafydd | Rhagfyr 22, 2011

Draig yr Hydref

Yn ôl gyda fidio arall. Ma’r gaeaf wedi cyrraedd Japan ‘go iawn’ rŵan. Da’ ni yn ei chanol hi rŵan, yn wynebu tridiau o storm eira dros ‘Dogig. Felly mae’n hen bryd i mi orffen golygu’r fidio yma cyn i Hydref nesa dal i fyny ‘da fi!
Diwrnod cyfan o ffilmio, gyda’r ddau ohonom ni’n rhedeg yn ôl ac ymlaen, i fyny ac i lawr y llethrau (mynydd sgïo) serth i nôl y camera!
Enw’r mynydd ydi Ryusan sef Mynydd y Ddraig, wedi ei leoli yn Zao, Yamagata. (Cliciwch i weld map o’r daith)
Dwi’n ceisio cyfleu harddwch yr ardal yn ogystal ag unigedd (‘da ni erioed wedi cyfarfod a neb yn y mynyddoedd) a hefyd hiraeth.

Mwynhewch!

Cyhoeddwyd gan: siondafydd | Hydref 6, 2011

Flog: Cofio Yamagata

Yn ogystal â thynnu lluniau gyda’r camera fy mwriad oedd i gymryd fideos. Felly gyda hyn mewn golwg penderfynais brynu camera DSLR a oedd yn medru cymryd fideos 1080p am 24fps (frame per second) sy’n sicrhau’r ‘filmic look’ (mae’n llygaid ni i gyd wedi dod i arfer gweld ffilmiau yn y sinema e.e. yn rhedeg am 24 ffrâm yr eiliad, sy’n golygu bod ffilmio fideos yn y ffurf yma’n fuddiol dros ben). Rheswm arall am gymryd ffilm gyda DSLR yw’r ffaith ei bod hi’n bosib dal dyfnder y llyn llawer gwell gyda lensiau ymgyfnewidiol.

Felly dechreuais dynnu fideos o fywyd yn Yamagata. Ar ôl cymryd y fideo mae’n rhaid graddio/cywiro’r lliwiau mewn rhaglen, mae’r gamp yma’n lletchwith ac anodd ond ‘dw i ‘di dod i fwynhau’r broses. Wedyn mae’n rhaid golygu a phwytho holl y clipiau at ei gilydd.

Cafodd y fideo yma ei saethu ar y 29 o Fedi ar Canon 550D (Magic Lantern). Defnyddiais Magic Bullet Looks i gywiro’r lliw a Premiere Pro i olygu’r fideo.

Cyhoeddwyd gan: siondafydd | Hydref 5, 2011

Gwyliau Yn Y Pedair Gwlad 四国

Ma’ gaeaf yn dod. Er ei bod hi ‘di bod yn grasboeth adref dros yr wythnos diwethaf ma’ pethau wedi cychwyn arafu lawr yn barod i’r gaeaf yng ngogledd Japan. Mae gwichio di-baid y cicadas wedi diflannu, daeth chwibanu liw nos y criciedyn a’n gadael yr un mor gyflym ac mae’n bosib gweld hen wragedd yn beicio ar hyd y ffordd gyda rhwyd yn ‘sgota am いなご sef ceiliog rhedyn sy’n byw yn y reis. Ar ôl dal y pryfed sy’n swrth gydag oerni mae’r hen wragedd yn eu stwffio i mewn i boteli plastig cymryd nhw adref a’u coginio! Yum! Credwch neu beidio mae’n nhw’n eithaf blasus ac ar gael mewn unrhyw archfarchnad gwerth chweil!

‘N’ôl i drywydd y blog penodol yma, eisiau sôn am ei’n wyliau bendigedig i Shikoku (四国 Y Pedair Gwlad / Dalaith) sef yr ynys leiaf o bedwar prif ynysoedd Japan. Mae’r ynys wedi ei leoli i dde-ddwyrain Osaka ble gallwch ddal y bys neu drên yr holl ffordd yna mewn o gwmpas 2 awr, er hyn mae’r ynys yn teimlo’n ddiarffordd dros ben. Unwaith ‘dach chi’n gadael y dinasoedd mae’n ddiawledig teithio o amgylch yr ynys heb gar, gan hynny rhentu car a wnaethom.

Aethom ar gylchdaith o amgylch yr ynys yn ymweld â dinasoedd, arfordiroedd hynod o brydferth a mynyddoedd llawn cymoedd serth ac afonydd grisial croyw. Aros mewn ambell ‘minshuku’ (tŷ llety preifat) hen ffasiwn a del ond hefyd rhannu stafell gyda phla o ‘cockroaches’!! Bwyta bwyd enwog yr ynys, er enghraifft sanuki udon a katsuo no tataki.

Ond prif fwriad y daith oedd i wylio prif ŵyl Japan o’r enw ‘awa odori’.

Roedd arfordir  gorllewinol yr ynys yn hyfryd!

Glas y mor

Arfordir Tokushima

Codi ben bore

Codi ben bore

Sushi macrell wedi'i bobi

Sushi macrell wedi'i bobi

Ar ôl treulio amser ar y traeth aethom ni i ganol yr ynys a gwario ei’n amser yn darganfod yr ardal ddirgel fynyddig llawn afonydd, pontydd gwinwydd a thai samurai cudd.

Ty Samurai

Ty Samurai

Pont gwinwydden

Pont gwinwydden

Enfys

Enfys

Dros y daith daethom ar draws ambell i ŵyl, ond yr un a gurodd oedd yr awa odori yn ninas Tokushima. Cymaint o egni, dawnsio ym mhobman, cymaint o hwyl!!

Yr Haid

Yr Haid

Awa odori

Awa odori

Dawns y dwylo

Dawns y dwylo

Gŵyl llawn cymeriadau, y tro cyntaf i mi weld Bob Dylan ar Yukata!!

Bob バカ

Bob バカ

Trad

Trad

Yanki-

Yanki-

Lleidr

Lleidr

Y Boss

Y Boss

Diolch!

Cyhoeddwyd gan: siondafydd | Gorffennaf 20, 2011

Catharsis

Well myn uffarn i, ma’ hi ‘di bod sbel ers i mi ‘sgwennu unrhyw beth i’r blog yma. Rhy hir! Pedwar mis ers i’r daeargryn ddigwydd, doedd gen i ddim chwaith ‘sgwennu am y digwyddiad tan heddiw.

Yn amlwg ‘dach chi i gyd wedi clywed am y trychineb erchyll a oedd y daeargryn a drawodd Japan ar y 11eg o Fawrth am 14:45. Mesurodd y daeargryn 9.0 ar y raddfa Richter. Ni chefais i fy effeithio’n rhy ddrwg gan y daeargryn, er bod Yamagata dim ond 5o munud o Sendai. Roeddwn i yn y gwaith pan drawodd y daeargryn, roedd rhaid i mi adael yr adeilad a sefyll tu allan. Teimlad rhyfedd dros ben, estron i ni ym Mhrydain. Roedd rhaid i mi sefyll gyda’m traed ar led i gadw’n fertigol, dim yn annhebyg i sefyll mewn cwch rhwyfo ar y môr! Parhaodd y ddaeargryn am o gwmpas 3 munud, 3 munud hir iawn, gydag ôl-gryniadau mawr yn parhau i’m hysgwyd roedd rhaid gwaghau’r adeilad am oddeutu awr. Yn y cyfamser newidiodd y tywydd yn drawiadol, cododd y gwynt main, casglodd y cymylau llwyd-ddu llawn cysgodion dwfn ac i roi halen i’r graith fe ddechreuodd hi fwrw eira’n drwm! Roedd fel petai fod diwedd y byd ar ei ffordd. Yn ogystal i’r tywydd eithafol, doedd dim trydan na dŵr, doedd dim hyd yn oed trydan i bweru goleuadau traffig ar y ffyrdd, er hyn, drwy ryw wyrth, ni welais un damwain ar hyd y ffordd wrth yrru i’r ddinas i nôl fy nghariad.

Noswaith oer, tywyll ac ansicr a ddilynodd y daeargryn. Dim ffon, dim radio, dim teledu, dim clem be i’w wneud nesaf. Er fod nam ar y rhwydweithiau ffon, roedd y rhyngrwyd ar fy ‘ffon ddeallus’ dal i weithio am rhyw reswm, oherwydd hyn roedd o’n bosib i ni ddefnyddio skype. Sicrhaodd hyn ein bod ni’n medru cysylltu â’n teuluoedd a thawelu eu meddyliau drwy gadarnhau ei’n bod ni’n iawn. Ond ar y llaw arall roedd hyn yn golygu fod y cyfryngau yn gallu cysylltu â ni. Mae ganom ni gysylltiadau gyda’r cyfryngau a oedd yn golygu ein bod ni’n ffynhonnell hawdd i’w ymelwa. Mi wnaethom ni wario rhan helaeth o’r noson yn siarad â gwahanol orsafoedd radio yn ceisio esbonio’r sefyllfa heb godi cyffro. Roedd hyn yn flas o’r wythnos i ddod.

Codi’n fore ar y dydd Sadwrn i weld diwrnod braf, euraidd o wanwyn tu allan, gwrthgyferbyniad llwyr i’r noswaith fagddu. Ar y strydoedd, roedd yna deimlad o undod ond hefyd dadleoliad. Roedd fel petai fod pawb eisiau bod gyda’i gilydd ond yn ogystal, dianc eu tai a oedd wedi bod yn garchar ansicr iddynt neithiwr.

Heb drydan, nwy, dwr, bwyd na diod yn y tŷ, ar ein beiciau yr aethom i geisio ffeindio bwyd. Doedd dim byd ar gael, roedd y mwyafrif o siopau wedi gwerthu allan o fod dim yn barod. Ar ei’n ffordd yn ôl drwy’r dref aethom ni heibio gwesty ‘pizza’ bach gwych ‘da ni’n nabod, yr un pryd daeth y cogydd allan a gweiddi arnom ei fod o ar agor! Gan ei fod o’n defnyddio popty pizza ‘go iawn’ nid oedd angen unrhyw drydan arno, ac oherwydd bod y trydan wedi diffodd roedd rhaid defnyddio holl y cynhwysai yn ei oergell. I dorri stori hir yn fer, pobodd pedair pizza i ni am ddim a’i becynnu er mwyn eu cymryd adref. Dyma un o nifer o storïau gwych i mi fod yn dyst iddynt a hefyd clywed am. Trwy gydol y drafferth roedd pawb yn hapus i helpu unrhyw un, ni welais unrhyw un yn gweiddi nac yn creu stŵr mewn unrhyw sefyllfa.

Dydd Sadwrn, ar ôl ei’n cinio brenhinol, aethom ar ein beics i dŷ ei’n ffrind sy’n byw yn ninas Yamagata. Am ryw reswm, roedd gan ei bentref o drydan erbyn bore dydd Sadwrn felly aethom yna i ymlacio a chael cawod.

Ar ôl ymlacio, bwyta a cymharu straeon wnaethom ni droi’r teledu ymlaen a cael golwg cyntaf o’r drychineb a ddatblygodd ar ôl i’r tsunami hunllefus rwygo drwy trefi arfordirol Fukushima, Miyagi ac Iwate. Y nerth, nerth y don du yn sgrafellu trwy’r strydoedd yn hollti ac wedyn yn sugno pob dim i’w berfeddion. Anodd oedd gwylio’r newyddion, gan fod Yamagata mor agos roeddem ni wedi bod i nifer o’r ardaloedd ar ein gwyliau. Un ardal wna’i byth anghofio yw Miyako yn Iwate, tref arfordirol yw Miyako, wedi ei amgylchynu gyda milltiroedd o draethi hyfryd ac môr grisial glan. Fy atgof olaf o Miyako nawr yw gweld y don du ‘enwog’ yn torri dros forglawdd y ddinas fel arwydd o ddiwedd yr hyn yr ydym yn gwybod.

Dros nos Sadwrn daeth mwy o alwadau gan y cyfryngau a ddaeth yn anoddach i oddef eu hanwybodaeth, erbyn hyn roedd gwir faint y trychineb wedi’n nrhawo fi. Unwaith eto, i dorri stori hir yn fer ar ddydd Sul wnaethom ni dderbynio galwad gan BBC24 yn dweud eu bod nhw tu allan i’r fflat lle roedden ni’n aros.  Wnaeth fi a’n nghariad gwario gweddill yr wythnos yn gyrru ceir i’r ardaloedd wedi’i effeithio gan y tsunami, ceisio ei’n gorrau i gyfiaethu, bod yn weision bach yn gwneud pob dim ac hefyd yn cynnal cyfweliadau byw ar y teledu a’r radio. Mae ‘na siawns dda eich bod chi wedi gweld/clywed fi a’n nghariad ar y BBC neu Radio Cymru dros wythnos gyntaf y daeargryn. Dros yr wythnos teimlais bob emosiwn posib (heblaw hapusrwydd), tristwch a poen i weld y bobl yn rhedeg i lawr ffyrdd yn frith a malurion yn poeni am y tsunami nesaf gyda holl eu heiddo mewn gorchudd gwely dros eu cefnau. Blinder tuag at y cyfryngau yn cymryd mantais o sefyllfa hunllefus ac yn ei drin fel ras i gael y stori gyntaf/naratif gorau. Ofn ac ansicrwydd wrth glywed am y pwerdy niwclear yn Fukushima, gweld y sefyllfa’n gwaethygu pob dydd, newyddion camarweiniol yn dod o bob cyfeiriad, neb yn siŵr beth i’w wneud. Balchder ym mhobl Japan yn sefyll mor gryf mewn sefyllfa mor ofnadwy, degau o filoedd wedi marw, cannoedd o filoedd wedi’i dadleoli, ond roedd y bobl dal i geisio byw bywyd o ddydd i ddydd drwy roi help llaw i’r rhai mwy anffodus. Ond wedyn teimlo fel llwfrgi, neu fradwr, yn gadael fy ffrindiau tu ôl a rhedeg yn ôl adref i Gymru fach. Dwi dal ddim yn siŵr os wnaethom ni’r penderfyniad iawn? Dychwelais yn ôl i Japan bythefnos yn ddiweddarach wedi drysu’n drylwyr, ond yn falch iawn o fod yn ôl.

Sendai

20 munud o ganol Sendai

Erbyn hyn dwi’n meddwl fod llawer o bobl wedi colli trywydd ar yr hyn sy’n digwydd ac wedi cael ei dal yn yr ‘aisatsu’ (cyfarchion) jargon sydd mor ddibwys a hepgor sy’n datgysylltu’r boblogaeth (sydd heb ei heffeithio) hyd yn oed bellach o’r achos.

がんばろう日本!Daliwch ati Japan.

がんばろう東北!Daliwch ati Gogledd Ddwyrain Japan.

Er bod gwir deimlad tu ôl y ‘cyfarchion’ yma, mae nhw dal i fod yn ymadroddion syth allan o batrymlun fel petai, rhy hawdd i’w dewis a hefyd rhy hawdd i’w hymadrodd.

Mae angen canolbwyntio ar y bobl sydd wedi colli pob dim a rhoi diwedd i ymelwa ar y cyfarchion gwag drwy hysbysebu diegwyddor.

Gobeithio bydd gan y llywodraeth y rhagwelediad i ymddiried yn y bobl a rhoi’r grym iddynt helpu gyda’r datblygiadau i’w cymunedau.

Mae’n teimlo fel pe bai pethau’n dychwelyd yn ôl i ryw ‘normaliaeth’ ond ni fydd unrhyw beth yr un peth yn y wlad yma byth eto. Mae rhai ardaloedd a rhan o boblogaeth gogledd ddwyrain Japan wedi ei’n gadael ni am byth, ac wedi gadael twll mawr yng nghalon y bobl a’i diwylliant.

Cyhoeddwyd gan: siondafydd | Chwefror 17, 2011

Prydain FUBAR

Henffych gyfeillion! Wedi saib hir, rhy hir, ‘dwi’n ôl gyda chwaith i ‘sgwennu. Dychwelais ‘nol adre’ i Ddyffryn Conwy dros y Gaeaf. Gwelais fy nheulu a’m ffrindiau a mwynhau digonedd o fwyd a diod. Nes i addo’n hyn mai dim ond cwrw ‘go iawn’ faswn i’n yfed tra bod adre’, mae hi’n ddigon hawdd yfed ‘lager’ da yma yn Japan ond yn fwy trafferthus dod o hyd i gwrw da am bris rhesymol. Dwi’n meddwl y pechais gwpl o weithiau ond does ‘na ddim ffiars nes i yfed digon o gwrw tra bod adre’.

Cawsom ni ein croeshoelio gan BA (llenwch yr acronym gyda’r geiriau sy’n gweddu, heb anghofio eu bod nhw’n gasgliad o’r cretiniaid mwyaf di werth ‘dwi wedi cyfarfod) ar y ffordd ‘n ôl adre ac ar y ffordd yn ôl i Japan. Bastards.

‘Naethon nhw roi’r bai ar y tywydd.

Sôn am y tywydd, roedd hi’n hynod o braf i weld y Gogledd wedi’i orchuddio mewn gwrthban o eira, er hyn dwi erioed wedi gweld Prydain mewn cymaint o siambls, wel, o leiaf ers i’r IKEA diwethaf agor. Roedd o fel petai fod Dydd y Farn wedi dod wythnos yn gynnar a dal pawb gyda’u trôns yn y golch.

Panorama o'r Gadair

Panorama o'r Gadair

Yr Afon Gonwy

Yr Afon Gonwy

Tuag at Rwsters

Tuag at Rwsters

Ar ôl camu oddi ar yr awyren (ar ôl gwario 11 awr yn hedfan ac wedyn 3 awr ychwanegol yn eistedd arno yn edrych ar y derfynfa) a darganfod ei’n bod ni yng nghnewyllyn clusterfuck Prydain, gadawsom y maes awyr a phenderfynu dal y trên yn ôl i Gymru. Gyda lwc daliasom ni’r trên ola’ i Ogledd Cymru a gorfod newid yng Nghaer, llai lwcus oedd y ffaith fod y trên olaf yma’n llawn meddwyn wedi bod yn gloddesta mewn partïon Nadolig. Dwi ‘rioed wedi gweld trên mor lawn, dwi’n credu mai dim ond y ddau ohonom ni oedd yn sobr ar y trên, i’m siom i. Roedd ‘na rywun yn rhechu pob yn ail funud ac roedd rhaid i ni wrando ar ganeuon aneglur ‘gwreiddiol’ ynglŷn â phob gorsaf ar y ffordd e.e. “Trotters’ Towers yn FF-LY-I-NY-T” a chan yn slagio ‘Shitton’. Wrth gyrraedd pen ei’n daith a gwneud ei’n ffordd trwy’r dref ysbrydol heibio degau o geir, bysus a thryciau wedi’i dympio dros bob man meddyliais ‘mi fysai’n gredadwy i berson estron heb glem am ofn gwallgof pobl Prydain tuag at y tywydd i gredu fod y wlad wedi’i ddal yng nghrafangau blin alldafliad ymbelydrol.’

Yn amlwg dim llwch ymbelydrol nag uwchnofa’r haul oedd yn atebol i’r pechod yma ond gorchuddiad tenau o eira a dipyn o rew.

Y cynllun oedd dod o hyd i ddwy restr o gyfartaleddau dyfnder eira ym Mhrydain ac yma yn Yamagata Japan, ond doedd gen i ddim ‘mynedd i chwilio am restr gynhwysfawr am y ddwy ardal. Felly fydd rhaid i chi fy nghredu i pan dwi’n deud bod ‘na gwerth mil o eira’n syrthio fan’ma i gymharu ag adre!

Gweler lluniau:

Zao, ogwmpas 20 munud o'n nhy i!

Zao, ogwmpas 20 munud o'n nhy i!

Coed bwystfilaidd

Coed bwystfilaidd

snow 'fro

snow 'fro

Ar ôl i mi gyrraedd ‘n’ôl bwriodd yr eira’n ddi-baid am 3 wythnos, mae ‘na dal metrau o eira ym mhob man!

Felly rŵan ‘dwi am ‘sgwennu cyfres o ddarnau o amgylch y gaeaf.

Daliwch eich dŵr cyfunol.

Older Posts »

Categorïau